Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Y Fforwm Myfyrwyr Ôl-radd

Y Fforwm Myfyrwyr Ôl-radd (PGSF) yw’r corff swyddogol sy’n cynrychioli myfyrwyr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor.

Rydym yn rhoi llais i bryderon a buddiannau myfyrwyr ôl-radd yng ngrwpiau tasg y brifysgol gan gynnwys Pwyllgor Ôl-radd y Senedd. Ac felly rydym yn creu pont gyfathrebu rhwng myfyrwyr ymchwil a’r staff uwch. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r brifysgol er mwyn gwella safonau, cyfleusterau ac adnoddau.

Cysylltu

Cysylltwch â ni gydag unrhyw fater ol-radd, a gwelwn ni os mae unrhywun arall yn cael yr un fath o broblem, pwy o'r brifysgol dylai ddelio gyda'r peth, a sut allwn wella ar y sefyllfa. Wedyn gallwch chi arbed eich amser a'i wario ar rhywbeth pwysicach.

Cyfarfodydd cymdeithasol

Rydym hefyd yn darparu man cyfarfod cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr ymchwil newydd a phresennol er mwyn hwyluso’r gwaith o greu cysylltiadau academaidd a chymdeithasol. Rydym yn trefnu digwyddiadau trwy’r flwyddyn, gan gynnwys nosweithiau bwyd a diod anffurfiol, yn ogystal â chynhadledd ryngddisgyblaethol lle all ymchwilwyr o Fangor a thu hwnt rhannu eu profiad. Mae ein hetholiadau a’n cyfarfodydd yn rhan o fframwaith cymdeithasol, fel y gallwch gael amser da a chyfarfod ôl-raddedigion eraill.

Cymeryd rhan

Gall unrhyw fyfyriwr ôl-radd gymryd rhan yn y PGSF, a gall sefyll mewn etholiad ar gyfer unrhyw swydd ar y pwyllgor. Neu gallwch gysylltu â ni i drafod unrhyw fater sy'n effeithio ar fyfyrwyr ôl-radd yn eich adran. Fel arall gallwch ddangos eich cefnogaeth i ni trwy wneud sylwadau ar ein tudalen Facebook a dod i’n digwyddiadau!

Site footer