Sut allai gysylltu?
Mae croeso i fyfyrwyr ôl-radd gysylltu â’r PGSF ynghylch unrhyw fater.
Gallai fod yn fater yn ymwneud â’ch Ysgol academaidd, awgrym am ddigwyddiadau i ddod, ymholiad am ein gweithgareddau, neu fater gwbl wahanol.
Aelodau Pwyllgor Presennol
Mae aelodau pwyllgor presennol y PGSF fel a ganlyn:
Ysgrifennydd a Thrysorydd y PGSF - Jez Harvey
Myfyriwr doethuriaethol yw Jez yn ei flwyddyn gyntaf yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae'n mwynhau gwleidyddiaeth, cerddoriaeth a colli ei frwydr â Netflix.
Ysgrifennydd Cymdeithasol y PGSF - Sarah Tracey
Mae Sarah'n ymgymryd a'i gradd Meistr mewn Cyfraith Busnes a Masnach Rhyngwladol. Yn wreiddiol o Fôn, mae wedi astudio ym mhrifysgolion Aberystwyth a Julius-Maximilians-Universität, Würzburg.
Ysgrifennydd TG a Hyfforddedig y PGSF, Cadeirydd Gweithredol – Katie Hoemann
Mae Katie yn fyfyriwr Meistr mewn yr Ysgol Ieithyddiaeth, yn arbenigo mewn Ieithyddiaeth Gwybyddol. Mae wedi byw dros y lle, Washington D.C. yn fwyaf diweddar, ac yn hanu o Ogledd California'n wreiddiol.
Swyddog Cyswllt Cymraeg y PGSF - Owain Wyn Jones
Cwblhaodd Owain ei ddoethuriaeth Hanes yn ddiweddar, astudiaeth o ysgrifennu hanesyddol yng Nghymru'r canoloesoedd. Yn wreiddiol o Abertawe, mae'n cael ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac felly'n dysgu trwy'r Gymraeg.