Beth sy’n digwydd gyda’r PGSF?
Mae'r dudalen hon yn arddangos gweithgareddau diweddar y PGSF, a caiff ei ddiweddaru ar gyfer newyddion pwysig neu ddigwyddiadau sydd i ddod.
Am ddiweddariadau mwy rheolaidd, hoffwch ein tudalen Facebook yn www.facebook.com/bangor.pgsf
Digwyddiadau: Cyfarfodydd Cymdeithasol yn Semester - o 5ed Chwefror 2014
Blwyddyn newydd dda a chroeso nôl! Gobeithio bo chi di mwynhau’r gwyliau a bo chi nawr yn teimlo’n fywiog a’n barod i ddod i afael a’r ail semester. Dyma’r digwyddiadau PGSF sy’n dod lan. Bydde fe’n grêt i weld gwynebau newydd!
Nosweithau gymdeithasol yn y Gath Dew
Bob yn ail nos Fercher, dewch i ymuno a ni yn y Gath Dew o 7yh. Dau am un ar y coctêls (yn cynnwys rhai heb alcohol) nes 8 o’r gloch, felly digon o rheswm i fod fan ‘na!
Seibiannau ‘Studio yn y Teras
Pob pythefnos byddwn yn cwrdd yn y Teras Lounge am 3yh am banad. Seibiant perffaith mewn diwyrnod hir o waith! Dewch lawr i ymuno da ni.
Welwn ni chi cyn bo hir!
Digwyddiad: Diodydd Nadoligaidd y PGSF! - 18fed Rhagfyr 2013
Ho Ho Ho! Nadolig llawen ohonyn ni gyd ar bwyllgor y FfMOR!
I ddathlu diwedd y semester, hoffwn ni wahodd chi gyd i gyfarfod yn Teras am nosweth o fins peis a gwin poeth (neu siocled poeth i'r rhai sy bant o'r lysh) ar ddydd Mercher 18fed Rhagfyr. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 6.30 yh.
Gwisgwch eich siwmperi mwyaf Nadoligaidd, hetiau Sion Corn, a phopeth am nosweth o sbri a gemau Nadolig! Ni'n edrych ymlaen i'ch gweld chi.