Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Sut mae’r PGSF wedi ei threfnu?

Mae gan y PGSF gyfansoddiad cynhwysfawr, y gallwch edrych arno isod.

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu strwythur, rheolau a pholisïau’r PGSF, ac mae’n eich helpu i ddeall eich gallu eich hun o fewn y grŵp.

Erthygl 1.  Cyffredinol
1.01 CYFANSODDIAD

(1) Bydd y Cyfansoddiad hwn yn disodli, fel dogfen sengl, y Cyfansoddiad dyddiedig Tachwedd 2005 a’r Gorchmynion Sefydlog fel y’u diwygiwyd 28 Ionawr 2005.  
(2) Bydd y cyfansoddiad hwn wedi ei strwythuro gan erthyglau a rheoliadau.  
(a) Elfennau craidd y cyfansoddiad yw’r erthyglau.  Ni ellir diweddaru erthyglau nes bod gwelliant wedi cael ei gadarnhau mewn Cyfarfod Cyffredinol.

(b) Mae’r rheoliadau’n darparu disgrifiad manylach o reolau’r cyfansoddiad.  Gellir diweddaru rheoliadau unwaith mae gwelliant wedi cael ei gadarnhau mewn Cyfarfod Cyffredinol.  

(a) Ni ellir diweddaru Erthyglau a Rheoliadau nes bod gwelliant wedi cael ei basio mewn Cyfarfod Cyffredinol yn unol â Rheoliad I, Adran 1.11 a Rheoliad III, Adrannau 3.02 a 3.03.

1.02

ENW

(1) Bydd yna, fel rhan o Brifysgol Bangor (a gyfeirir ati o hyn allan fel y Brifysgol) Fforwm Myfyrwyr Ôl-radd, a’i enw fydd Fforwm Myfyrwyr Ôl-radd Prifysgol Bangor (a gyfeirir ato o hyn allan fel PGSF).

1.03

NODAU AC AMCANION

(1) Darparu fforwm ar gyfer trafodaeth a mynegi safbwyntiau ar bob mater a fydd o bryder i fyfyrwyr ôl-radd yn y Brifysgol.
(2) Annog cyfranogiad myfyrwyr ôl-radd ym musnes y brifysgol.
(3) Cynorthwyo’r Brifysgol mewn ystyriaethau ar bob mater sy’n achosi pryder i fyfyrwyr ôl-radd.
(4) Annog rhyngweithio cymdeithasol a deallusol rhwng myfyrwyr ôl-radd.

1.04

CYFLE CYFARTAL

(1) Mae gan y PGSF ymroddiad i gydraddoldeb cyfle. Ni chaiff unrhyw aelod o’r PGSF ei g/wahaniaethu yn ei h/erbyn ar sail rhyw, hil, crefydd, iaith, cyfeiriadedd rhywiol, anableddau corfforol a meddyliol, oed, statws priodasol a/neu unrhyw sail arall.  

1.05

IECHYD A DIOGELWCH

(1) Mae gan y PGSF ymroddiad i iechyd a diogelwch ei holl aelodau a bydd yn sicrhau ymlyniad at holl ofynion presennol y Brifysgol.

1.06

DWYIEITHRWYDD

(1) Bydd y PGSF yn ymlynu, ble bo hynny’n bosib, at bolisi dwyieithog y Brifysgol.
Erthygl II. Aelodaeth

2.01

AELODAETH

(1) Bydd y PGSF yn cynnwys pob myfyriwr cofrestredig rhan-amser a llawn amser sydd wedi’u hymrestru ar raglen ôl-radd yn y Brifysgol.
(2) Bydd y PGSF yn cynnwys pob myfyriwr sydd yn y cyfnod o ysgrifennu eu traethawd doethuriaeth, er nad ydynt wedi’u cofrestru yn y Brifysgol.

2.02

BREINTIAU AELODAETH
(1) Mae gan holl aelodau’r PGSF yr hawl
(a) I ddefnyddio pob cyfleuster cymdeithasol, diwylliannol a phellach y PGSF, yn ogystal â chyfranogi o holl weithgareddau’r PGSF;
(b) I gyfranogi’n llawn yn strwythurau democrataidd y PGSF;
(c) I annerch y Cyfarfod Cyffredinol;
(d) I bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol;
(e) I godi materion o bryder gyda’r pwyllgor naill ai drwy lythyr, e-bost neu gyswllt personol.
(2) Gellir tynnu'n ôl freintiau aelod o’r PGSF o ganlyniad i weithredoedd disgyblu a gymerir yn erbyn yr aelod hwnnw.

2.03

PLEIDLEISIO

(1) Bydd pleidleisio ym mhob cyfarfod drwy godi llaw ac eithrio pan ei bod yn ofynnol gan Erthygl neu Reoliad i gynnal pleidlais ddirgel.

(2) Penderfynir pob pleidlais drwy fwyafrif syml ac eithrio pan fo mwyafrif o 2/3 yn ofynnol gan Erthygl neu Reoliad.

2.04

MATERION DISGYBLU

(1) Mae’r PGSF, fel corff myfyrwyr, yn ddarostyngedig i bolisïau’r Brifysgol.

(2) Bydd y PGSF yn dwyn at sylw’r Brifysgol unrhyw weithredoedd gan unrhyw rai o’u haelodau sy’n groes i bolisi’r Brifysgol.

(3) Bydd y PGSF yn cynnig cynrychiolaeth i’w holl aelodau mewn gweithdrefnau disgyblu.
Erthygl III. Trefn Lywodraethu’r PGSF
3.01 TREFN LYWODRAETHU

(1) Caiff y PGSF ei lywodraethu gan
(a) Y Cyfansoddiad, sy’n cynnwys:
i) Erthyglau;
ii) Rheoliadau.
(b) Polisi fel y pasiwyd mewn refferendwm Cyfarfod Cyffredinol.
(2) Bydd pob aelod yn rhwymedig i’r cyfansoddiad a pholisi.

3.02

REFFERENDWM

(1) Gellir galw refferendwm ar gynnig penodol:
(a) Drwy ddeiseb o 25 aelod;
(b) Gan fwyafrif o’r aelodau pwyllgor.
(2) Caiff y bleidlais ei chynnal drwy bleidlais ddirgel mewn Cyfarfod Cyffredinol neu Gyfarfod Cyffredinol Arbennig.
(3) Ni ellir galw refferendwm ddwywaith o fewn cyfnod o 12 mis ar yr un mater.
(4) Mae penderfyniad a wneir gan refferendwm yn disodli unrhyw benderfyniad a wneir gan y Pwyllgor a’r Cyfarfod Cyffredinol.

3.03

CYFARFOD CYFFREDINOL

(1) Bydd un Cyfarfod Cyffredinol pob tymor:
(a) Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol cyntaf yn ystod chwech (6) wythnos o ddechrau’r tymor cyntaf.

(b) Cynhelir yr ail Gyfarfod Cyffredinol ar unrhyw adeg yn ystod yr ail dymor.

(c) Cynhelir y trydydd Cyfarfod Cyffredinol, sef y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, yn ystod pedair wythnos gyntaf y trydydd tymor.
(2) Bydd Cyfarfod Cyffredinol

(a) Yn gweithredu fel fforwm i bob aelod fynegi eu safbwyntiau.

(b) Yn gorff sofran gwleidyddol y PGSF.

(c) Â grym feto dros benderfyniadau’r Pwyllgor.

(d) Yn pleidleisio ar welliannau i’r Erthyglau a Rheoliadau a pholisïau’r pwyllgor.
(3) Bydd y Cyfarfod Cyffredinol cyntaf, ymhellach:
(a) Yn derbyn adroddiad ar gynlluniau’r pwyllgor ar gyfer y flwyddyn i ddod;
(b) Yn pleidleisio ar p’un ai i ganiatáu i gynigion polisi’r flwyddyn flaenorol ddirwyn i ben;
(c) Yn cymeradwyo’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod;
(d) Yn ethol yr Ysgrifennydd Ôl-radd Hyfforddedig yn unol â Rheoliad III, Adrannau 3.01-3.04.
(4) Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ymhellach:
(a) Yn derbyn adroddiadau ar y gwaith a wnaed drwy gydol y flwyddyn, a’r amcangyfrif o wariant y PGSF dros y flwyddyn;

(b) Yn ethol y Pwyllgor, ac eithrio safle’r Ysgrifennydd Ôl-radd Hyfforddedig fel y mynegir yn Erthygl III, Adran 3.03, paragraff (3).
(5) Caiff agenda’r Cyfarfod Cyffredinol ei anfon at bob aelod ddim llai na 4 awr cyn y cyfarfod.
(6) Caiff dogfennau ychwanegol sydd i’w trafod yn y Cyfarfod Cyffredinol a all mewn unrhyw ffordd effeithio ar strwythur, trefn a/neu bolisïau’r PGSF eu cylchu i bob aelod ddim llai na 5 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
(7) Caiff cworwm ei gynnal ar bob adeg yn unol â Rheoliad I, Adran 1.05.
(8) Bydd Cyfarfodydd Cyffredinol Arbennig, ymhellach:
(a) Yn cael eu cynnull er mwyn mynd i’r afael â materion penodol na all aros tan y cyfarfod nesaf.

(b) Yn gallu cael eu galw:
i) Gan fwyafrif o aelodau pwyllgor y PGSF;
ii) Gan ddeiseb wedi’i arwyddo gan 25 aelod.
(c) Rhaid caniatáu rhybudd o bump (5) diwrnod gwaith o’r cyfarfod.

3.04

AELODAU PWYLLGOR Y PGSF

(1) Bydd y Pwyllgor yn cynnwys:
(a) Cadeirydd
(b) Ysgrifennydd
(c) Trysorydd
(d) Ysgrifennydd Cymdeithasol
(e) Ysgrifennydd TG
(f) Ysgrifennydd Ôl-radd Hyfforddedig
g) Swyddog Cyswllt Cymraeg
(2) Bydd yr aelodau pwyllgor:
(a) Yn gweithredu polisi’r PGSF;
(b) Yn atebol i’r Cyfarfod Cyffredinol;
(c) Yn cael eu hethol am dymor o un flwyddyn o 1 Medi tan 31 Awst ac eithrio’r Ysgrifennydd Ôl-radd Hyfforddedig
i) Bydd yna gyfnod trosglwyddo rhwng yr etholiad tan 31 Awst pan fydd y pwyllgor etholedig a’r hen bwyllgor yn gweithio gyda’i gilydd.
ii) Caiff yr Ysgrifennydd Ôl-radd Hyfforddedig ei ethol am un tymor yn dechrau o Gyfarfod Cyffredinol cyntaf y flwyddyn tan Gyfarfod Cyffredinol cyntaf y flwyddyn ganlynol.
(d) Yn gwasanaethu am ddim mwy na dwy flynedd yn olynol fel aelod o’r pwyllgor.
(3) Gall aelodau’r pwyllgor gael eu diswyddo:
(a) Drwy lythyr o ymddiswyddiad ysgrifenedig i’r Cadeirydd;
i) Yn achos y Cadeirydd, drwy lythyr o ymddiswyddiad ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd.

(b) Drwy bleidlais o ddiffyg hyder gyda mwyafrif o 2/3 gan yr holl aelodau mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig.
(4) Os bydd pleidlais o ddiffyg hyder yn llwyddiannus, rhaid galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ble caiff etholiadau eu cynnal er mwyn ail-ethol aelodau o’r pwyllgor sydd wedi cael eu diswyddo, yn unol â Rheoliad III, Adrannau 3.01- 3.04.
Rheoliad I. Gorchmynion Sefydlog
1.01 HYSBYSIAD CYFARFODYDD

(1) Cyhoeddir hysbysiad cyfarfodydd:
(a) Drwy wefan y PGSF
(b) Drwy fewnrwyd y Brifysgol
(c) Drwy E-bost
(2) Bydd hysbysiad cyfarfodydd yn cynnwys;
(a) Amser, dyddiad a lleoliad y cyfarfod;

(b) Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion polisi, gwelliannau cyfansoddiadol a chynigion brys (a gyfeirir atynt oll fel cynigion) ;
(3) Caiff yr hysbysiad o gyfarfodydd ei gyhoeddi o leiaf ddeg (10) diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
1.02 AGENDA

(1) Cyhoeddir agenda ddim llai na 48 awr cyn cyfarfod.
(2) Bydd copïau o’r agenda ar gael yn y cyfarfod, cânt eu cyhoeddi ar wefan y PGSF a gellir eu cylchu drwy e-bost.

(3) Ar y pwynt priodol yn nhrefn busnes y cyfarfod bydd y Cadeirydd yn amlinellu’r agenda.

(a) Gall unrhyw aelod sydd â phleidlais wneud cynnig i newid trefn busnes.

(b) Rhaid i unrhyw newid i’r agenda gael ei dderbyn drwy bleidlais fwyafrif syml.

1.03

MYNYCHWYR CYFARFODYDD AC ARSYLWYR  

(1) Gall pob Aelod Cyffredin fynychu cyfarfodydd.
(2) Gan y Cadeirydd mae’r gair olaf ar ddyfarnu bod y cyfarfod yn llawn.
(3) Gall unrhyw un nad yw’n Aelod Cyffredin o’r PGSF fynychu cyfarfod fel arsylwr.
(a) Gellir caniatáu hawliau siarad i arsylwyr drwy bleidlais fwyafrif syml.

1.04

GILOTÎN

(1) Pennir gilotîn gan y Cadeirydd cyn y cyfarfod.

(2) Caiff ei gyhoeddi gan y Cadeirydd ar ddechrau’r cyfarfod.

1.05

CWORWM

(1) 25 aelod fydd cworwm a rhaid ei gynnal ar bob adeg, ac eithrio dan yr amodau isod.
(2) Pan na chyrhaeddir cworwm mewn Cyfarfod Cyffredinol, rhaid galw Cyfarfod Cyffredinol arall o fewn wythnos.
(3) Eithriadau:

(a) Os na chyrhaeddir cworwm o 25 aelod ar ôl galw Cyfarfod Cyffredinol am y trydydd tro, gall y Pwyllgor ddefnyddio ei rymoedd gweithredol i benderfynu, ar y cyd â’r aelodau cyffredin eraill o’r PGSF sy’n bresennol, i gynnal y Cyfarfod Cyffredinol drwy bleidlais fwyafrif syml.

(b) Bydd y nifer o aelodau cyffredin y PGSF mewn unrhyw Gyfarfod Cyffredinol a gynhelir ond nad yw’n cyrraedd y lleiafswm cworwm yn gorfod bod yn gyfartal â, neu’n fwy na’r nifer o aelodau pwyllgor sy’n bresennol yn y cyfarfod hwnnw.

(c) Ni fydd y cworwm yn angenrheidiol am un flwyddyn o ddyddiad cadarnhau’r cyfansoddiad hwn mewn Cyfarfod Cyffredinol.

1.06

DYLETSWYDDAU A GRYMOEDD Y CADEIRYDD

(1) Cymerir y gadair ym mhob cyfarfod gan Gadeirydd y Cyfarfod.  
(a) Cadeirydd y Pwyllgor fydd Cadeirydd y Cyfarfod.

(b) Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, cymerir swyddogaeth y Cadeirydd gan Ddirprwy Gadeirydd y Pwyllgor.

i) Ysgrifennydd y Pwyllgor fydd y Dirprwy Gadeirydd.
(2) Bydd y Cadeirydd:
(a) Yn gyfrifol am sicrhau bod y cyfarfod yn cael ei gynnal yn unol â’r Cyfansoddiad a pholisi’r PGSF;
(b) Yn pleidleisio dros y status quo yn achos pleidlais gyfartal;
(c) Yn gadael y gadair ac yn peidio â bod yn Gadeirydd yn achos cynnig o ddiffyg hyder yng Nghadeirydd y Cyfarfod.
(3) Gall y Cadeirydd ofyn i unrhyw un adael y cyfarfod heb godi pwynt o drefn os yw ef neu hi yn ymddwyn yn aflonyddgar .

1.07

TREFN FUSNES

(1) Bydd trefn fusnes ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol yn cynnwys y canlynol pan fo hynny’n gymwys:
(a) Sylwadau agoriadol y Cadeirydd;
(b) Hysbysiad Etholiadau;
(c) Ceisiadau am hawliau siarad;
(d) Cofnodion y cyfarfod diwethaf;
(e) Materion yn codi o gofnodion y cyfarfod diwethaf;
(f) Cynigion;
(g) Gwelliannau cyfansoddiadol;
(h) Busnes y Pwyllgor;
(i) Etholiadau;
(j) Adroddiadau;
(k) Eitemau i’w trafod;
(l) Cwestiynau;
(m) Unrhyw Fusnes Arall.

1.08

CWESTIYNAU

(1) Bydd, ym mhob Cyfarfod Cyffredinol, gyfnod o amser wedi’i bennu ar gyfer cwestiynau i’r pwyllgor.

(2) Bydd y cwestiynau hyn naill ai’n cael ateb llafar llawn ar unwaith neu ymateb ysgrifenedig o fewn deg (10) diwrnod gwaith. Bydd methu ag ymateb yn arwain at geryddu’r Aelod Pwyllgor perthnasol.

1.09

EITEMAU I’W TRAFOD

(1) Bydd yn bosib ychwanegu eitemau i’w trafod i’r drefn fusnes ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol.
(2) Gellir cynnig eitemau o’r fath gan unrhyw aelod o’r PGSF.
(3) Dylid cyflwyno’r eitemau i’w trafod i Ysgrifennydd y Pwyllgor hyd at 72 awr cyn dechrau’r cyfarfod.
(4) Caiff eitemau o’r fath ddim ond eu clywed yn y cyfarfod gyda chymeradwyaeth mwyafrif syml.
(5) Mewn Cyfarfodydd Cyffredinol pennir cyfnod o amser i Aelodau Cyffredin gael codi materion i’w trafod nad ydynt ar yr agenda.
(6) Bydd gan Gadeirydd y Pwyllgor yr hawl i ateb ar faterion o’r fath a bydd yn adrodd i’r Cyfarfod Cyffredinol nesaf ar ba gamau gweithredu, os o gwbl, sydd i’w cymryd.

1.10

CYNIGION

(1) Mae’n ofynnol bod pob cynnig;
(a) Yn cael ei gyflwyno’n ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y Cyfarfod Cyffredinol;

(b) Yn cael ei gynnig a’i eilio gan Aelodau Cyffredin o’r PGSF;
i) Gellir tynnu cynigion yn ôl gan y cynigydd neu’r eilydd os nad yw’r drafodaeth ar y cynnig hwnnw wedi dechrau.

(c) Yn cydymffurfio â’r Cyfansoddiad PGSF presennol;
(d) Yn cynnwys llai na 500 gair;
(e) Yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod yn unig os yw’r cynigydd neu’r eilydd yn bresennol;
(f) Yn derbyn cefnogaeth mwyafrif syml i basio.

1.11

GWELLIANNAU CYFANSODDIADOL

(1) Bydd gwelliannau cyfansoddiadol:
(a) Angen pleidlais o fwyafrif o ddau draean o’u plaid i basio;

(b) Yn dod i rym ar ôl cael eu pasio mewn Cyfarfod Cyffredinol.

1.12

CYNIGION BRYS

(1) Gellir cyflwyno cynigion brys i’r Cadeirydd hyd at yr amser yr hysbysebir bod y cyfarfod i gychwyn.
(2) Bydd cynnig brys yn gynnig y mae ei sylwedd yn ymwneud â digwyddiadau a gododd yn dilyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion.
(a) Nid yw cynnig yn gynnig brys oni bai y byddai methu â’i drafod yn y cyfarfod hwnnw yn amharu ar waith presennol y PGSF.
(b) Gan y Cadeirydd bydd y dyfarniad terfynol ynghylch p’un ai ydi cynnig brys yn gynnig brys mewn gwirionedd.
(3) Clywir cynigion brys yn unig mewn Cyfarfodydd Cyffredinol gyda chymeradwyaeth pleidlais fwyafrif syml.

1.13

GWELLIANNAU I GYNIGION

(1) Gall gwelliannau gael eu cynnig i’r Cadeirydd cyn dechrau’r cyfarfod.
(2) Bydd gwelliannau na dderbynnir gan y cynigydd yn cael eu trafod fel cynnig.
(3) Os ydy gwelliant na dderbynnir gan y cynigydd yn cael ei basio, yna caiff cynigydd y gwelliant hwnnw ei bennu yn gynigydd y cynnig.

(4) Ni ellir tynnu cynnig yn ei ôl os oes gwelliant wedi cael ei gyflwyno yn ei erbyn.

(5) Mae pob gwelliant angen pleidlais o fwyafrif syml i basio.

1.14

GWEITHDREFN AR GYFER TRAFODAETH

(1) Bydd cynigydd y cynnig yn siarad am hyd at dri munud.
(a) Gall y cynigydd ddirprwyo ei h/araith ef neu hi i aelod arall.
(2) Yna bydd y Cadeirydd yn gofyn am araith yn erbyn y cynnig, a fydd yn parhau am hyd at dri munud.
(3) Bydd cyfnod o gwestiynau’n dilyn. Gall y cwestiynau gael eu cyfeirio at y siaradwr o blaid neu yn erbyn y cynnig.
(4) Os ar unrhyw adeg nad oes cwestiynau pellach, bydd y Cadeirydd yn symud ar unwaith i grynodeb a phleidlais.
(a) Mae’r crynodeb yn eiddo i gynigydd y cynnig neu gynigydd y gwelliant diwethaf a basiwyd ac ni fydd yn parhau am fwy na 30 eiliad.

1.15

PWYNTIAU O DREFN

(1) Mae pwyntiau o drefn yn ymwneud a sut y cynhelir y cyfarfod a gellir eu codi ar unrhyw adeg.
(2) Mae gan bwyntiau o drefn flaenoriaeth dros bob busnes arall.
(3) Caiff pwyntiau o drefn flaenoriaeth yn y drefn ganlynol:
(a) Her i’r cworwm;
i) Bydd y Cadeirydd ar unwaith yn gorchymyn cyfrif y nifer sy’n bresennol sy’n gymwys i bleidleisio.
(b) Cais am ddyfarniad neu ddehongliad;
(c) Cais i’r bleidlais gael ei chyfrif;
(d) Cais am ail bleidlais;
(e) Pwyntiau eraill o drefn.

1.16

POLISI’N DIRWYN I BEN

(1) Bydd pob polisi a basiwyd yn ystod y flwyddyn academaidd yn dirwyn i ben ar ôl Cyfarfod Cyffredinol cyntaf y flwyddyn academaidd ganlynol.
(2) Bydd y Cadeirydd yn gwahodd araith yn erbyn dirwyn pob polisi i ben:
(a) Os na fydd araith yn erbyn dirwyn polisi i ben, yna pennir bod y polisi wedi dirwyn i ben.

(b) Caiff y cynnig ei drafod yn unol â’r gorchymynion sefydlog hyn.
(c) Ni ellir cynnig gwelliant i’r cynnig na’i drafod mewn rhannau.
(3) Gwnaiff polisi barhau mewn grym os yw’n cael ei gymeradwyo drwy bleidlais fwyafrif syml.

1.17

COFNODION

(1) Rhaid i gofnodion pob cyfarfod gael eu cymryd gan Ysgrifennydd pwyllgor y PGSF.
(a) Yn absenoldeb yr Ysgrifennydd, gellir cymryd y cofnodion gan aelod pwyllgor a ddynodir gan y Cadeirydd.
(2) Bydd cofnodion y cyfarfodydd yn cynnwys:
(a) Rhestr o’r bobl hynny sy’n bresennol ac ymddiheuriadau;
(b) Cyfrif cryno o adroddiadau ac addewidion gan aelodau etholedig y pwyllgor;
(c) Pob cynnig a basiwyd ac a fethodd;
(d) Dyfarniadau’r Cadeirydd;
(e) Pob canlyniad Etholiad.
(3) Bydd cofnodion pob cyfarfod ar gael:
(a) Drwy e-bost o fewn 15 diwrnod gwaith yn dilyn y cyfarfod;

(b) Drwy wefan y PGSF o fewn 30 diwrnod gwaith yn dilyn y cyfarfod.

1.18

REFFERENDA

(1) Gellir galw refferendwm ar unrhyw gynnig neu fater yn unol ag Erthygl III, Adran 3.02.
(2) Bydd Pwyllgor y PGSF yn cyhoeddi’r refferendwm ar y fewnrwyd a gwefan y PGSF o fewn pump (5) diwrnod gwaith o’i alw.
(3) Rhaid i’r refferendwm gael ei gynnal o fewn wyth (8) wythnos.
(4) Bydd y Pwyllgor neu eu dirprwy yn gweithredu fel dyfarnwr annibynnol ar gyfer y refferendwm.
(5) Dim ond unwaith o fewn cyfnod o ddeuddeg mis y gellir galw refferendwm ar fater neilltuol.
(a) Bydd gan y Pwyllgor y gair olaf ar p’un ai ydy mater a aiff i refferendwm yr un peth â refferendwm blaenorol.
(6) Gellir galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig i drafod y mater sy’n cael ei gyflwyno i refferendwm dim ond os nodir hynny ar adeg galw’r refferendwm.
(7) Rhaid i refferendwm gael ei gynnal yn unol ag Erthygl II, Adran 2.03; Erthygl III, Adran 3.02; a Rheoliad III, Adrannau 3.02 a 3.03.
(8) Bydd y Pwyllgor yn llunio canllawiau ar gyfer pob Refferendwm ac yn gwneud hyd y cyfnod ymgyrchu yn glir.
(9) Dim ond Aelodau Cyffredin y PGSF a gaiff bleidleisio mewn refferendwm.
(10) Mae refferenda angen mwyafrif syml i gael eu derbyn, oni bai bod y cwestiwn yn ymwneud â gwelliant cyfansoddiadol, a gaiff ei gynnal yn unol â Rheoliad I, Adran 1.11.

(11)Mae’r PGSF yn ymrwymedig i bolisi a benderfynir gan refferendwm ac mae’n disodli unrhyw bolisi blaenorol.
Rheoliad II. Pwyllgor
2.01 CADEIRYDD

(1) Bydd yn cynrychioli’r PGSF i’r Brifysgol a’r gymuned leol.
(2) Bydd yn aelod llawn, ynghyd ag Ysgrifennydd y Pwyllgor, ar y Pwyllgor Gwaith Ôl-radd a Phwyllgor y Senedd Ôl-radd.
(a) Bydd yn dynodi aelod pwyllgor arall i sefyll yn achos absenoldeb naill ai’r Cadeirydd neu’r Ysgrifennydd.
(3) Bydd yn cynnal cyswllt gyda phob fforwm myfyrwyr perthnasol arall a mudiadau allanol.
(4) Bydd yn gyfrifol am gydlynu a drafftio cyllideb y PGSF gyda’r Trysorydd.
(5) Bydd yn cyflwyno adroddiad ar waith y Pwyllgor i bob Cyfarfod Cyffredinol.
(6) Bydd yn trefnu a chadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor.
(7) Bydd yn Swyddog Democratiaeth a bydd yn gyfrifol am gynnal y Cyfansoddiad.
(8) Bydd yn brif swyddog y PGSF ac, fel pennaeth y Pwyllgor, bydd yn monitro absenoldeb y swyddogion eraill.
(9) Bydd, ar y cyd ag aelodau pwyllgor eraill, yn gyfrifol am ddrafftio a gweithredu strategaeth y Pwyllgor a bydd yn goruchwylio polisi gweithredol.
2.02 YSGRIFENNYDD

(1) Bydd yn cynrychioli’r PGSF i’r Brifysgol a’r gymuned leol.
(2) Bydd yn aelod llawn, ynghyd â Chadeirydd y Pwyllgor, ar y Pwyllgor Gwaith Ôl-radd a Phwyllgor y Senedd Ôl-radd.
(3) Ef/hi fydd yr aelod pwyllgor fydd yn gyfrifol am gymryd cofnodion ym mhob cyfarfod pwyllgor yn ogystal â Chyfarfodydd Cyffredinol, ac eithrio yn ei h/absenoldeb.
(4) Bydd yn gyfrifol am drefnu pob dogfennaeth yn ymwneud â chyfarfodydd y pwyllgor a’r cyfarfodydd cyffredinol.
(5) Bydd yn cadeirio pob cyfarfod Pwyllgor a Chyfarfod Cyffredinol yn absenoldeb y Cadeirydd.
2.03 TRYSORYDD

(1) Bydd yn cynrychioli’r PGSF i’r Brifysgol a’r gymuned leol.
(2) Gellir ei b/phennu fel eilydd i sefyll ar y Pwyllgor Gwaith Ôl-radd neu Bwyllgor y Senedd Ôl-radd.
(3) Bydd yn gyfrifol am weinyddu holl agweddau ariannol y PGSF.
(4) Bydd yn gyfrifol am gydlynu a drafftio cyllideb y PGSF gyda’r Cadeirydd.
2.04 YSGRIFENNYDD CYMDEITHASOL

(1) Bydd yn cynrychioli’r PGSF i’r Brifysgol a’r gymuned leol.
(2) Gellir ei b/phennu fel eilydd i sefyll ar y Pwyllgor Gwaith Ôl-radd neu Bwyllgor y Senedd Ôl-radd.
(3) Bydd yn cydlynu a/neu cynnig cefnogaeth i ddigwyddiadau’r PGSF.
(4) Bydd yn annog a hyrwyddo gweithgaredd hamdden ar gyfer y gymuned ôl-radd yn y Brifysgol, gan gynnig cymorth drwy’r PGSF.
2.05 YSGRIFENNYDD TG

(1) Bydd yn cynrychioli’r PGSF i’r Brifysgol a’r gymuned leol.
(2) Gellir ei b/phennu fel eilydd i sefyll ar y Pwyllgor Gwaith Ôl-radd neu Bwyllgor y Senedd Ôl-radd.
(3) Bydd yn gyfrifol am reoli’r holl wasanaethau TG a ddefnyddir gan ac a ddarperir gan y PGSF.
2.06 YSGRIFENNYDD ÔL-RADD HYFFORDDEDIG
(1) Bydd yn cynrychioli’r PGSF i’r Brifysgol a’r gymuned leol.
(2) Gellir ei b/phennu fel eilydd i sefyll ar y Pwyllgor Gwaith Ôl-radd neu Bwyllgor y Senedd Ôl-radd.
(3) Bydd yn cynrychioli pob myfyriwr ôl-radd hyfforddedig ar Bwyllgor y PGSF.
(4) Bydd yn cynnal cyswllt gyda phob fforwm myfyrwyr perthnasol arall a mudiadau allanol.
2.07 SWYDDOG CYSWLLT CYMRAEG
(1) Bydd yn cynrychioli’r PGSF i’r Brifysgol a’r gymuned leol.
(2) Gellir ei b/phennu fel eilydd i sefyll ar y Pwyllgor Gwaith Ôl-radd neu Bwyllgor y Senedd Ôl-radd.
(3) Bydd yn sicrhau bod y PGSF yn hwyluso cyfranogiad gan siaradwyr Cymraeg ac yn rhoi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig.
(4) Bydd yn cynnal cyswllt gyda phob fforwm myfyrwyr perthnasol arall a mudiadau allanol.
Rheoliad III. Etholiadau
3.01 ETHOLIADAU PWYLLGOR

(1) Bydd yna etholiad pwyllgor blynyddol yn unol ag Erthygl III, Adrannau 3.03 a 3.04.
(2) Bydd y Pwyllgor:
(a) Yn gyfrifol am sicrhau gweithrediad teg a democrataidd etholiadau’r PGSF;

(b) Yn gyfrifol am alw etholiad yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn nhrydydd tymor y flwyddyn academaidd;

(c) Yn cyflwyno cymorth gwybodus i bob ymgeisydd ar gais.
(3) Bydd yna isetholiad mewn achos pan fo safle’n dod yn wag yn dilyn etholiad neu mewn achos pan fo aelod pwyllgor yn ymddiswyddo neu bod eu statws fel aelod yn dod i ben.
(4) Bydd y safleoedd ar gyfer etholiad fel a ganlyn:
(a) Cadeirydd
(b) Ysgrifennydd
(c) Trysorydd
(d) Ysgrifennydd Cymdeithasol
(e) Ysgrifennydd TG
(f) Ysgrifennydd Ôl-radd Hyfforddedig
(g) Swyddog Cyswllt Cymraeg
(5) Bydd yr ymgeiswyr:
(a) Yn aelodau o’r PGSF;

(b) Yn ymlynu wrth gyfansoddiad y PGSF ac wrth unrhyw reolau neu reoliadau a osodir gan y Cyfarfod Cyffredinol;

(c) Â’r hawl i bleidlais yn yr un ffordd â phob aelod arall;

(d) Yn gyfrifol am weithredoedd pob aelod o’u tîm ymgyrchu;

(e) Yn cyflwyno proffil personol byr a maniffesto (dim mwy na 500 gair) i’r pwyllgor sy’n ymadael.
(6) Bydd Hysbysiad Etholiad
(a) Mewn dwy ran.

i) Bydd Hysbysiad Enwebiadau:
a) Yn cael cyhoeddusrwydd eang am ddeg (10) diwrnod gwaith cyn i’r enwebiadau agor;
b) Yn datgan y safleoedd mae enwebiadau ar agor ar eu cyfer;
c) Yn datgan ble mae ffurflenni enwebu ar gael a ble i’w hanfon ar ôl eu cwblhau;
d) Yn datgan dyddiad ac amser cau enwebiadau.
ii) Bydd Hysbysiad Etholiad:
a) Yn cael cyhoeddusrwydd eang drwy gydol y cyfnod ymgyrchu;
b) Yn datgan ble y gellir canfod gwybodaeth bellach am yr ymgeiswyr a’r safleoedd;
c) Yn datgan dyddiadau ac amseroedd a lleoliad etholiadau.
(7) Enwebiadau:
(a) Byddant ar agor am saith (7) diwrnod gwaith;
(b) Byddant yn cael eu cyflwyno ar ffurflen enwebu wedi’i chwblhau, wedi’i hawdurdodi gan yr ymgeisydd;
(c) Gellir eu diddymu gan yr ymgeisydd ar unrhyw adeg drwy hysbysu’r pwyllgor o’i b/phenderfyniad yn ysgrifenedig;
(d) Byddant ar agor am dri (3) diwrnod gwaith ychwanegol os na dderbynnir unrhyw enwebiadau am safle erbyn diwedd y cyfnod enwebu;
(e) Byddant yn cael eu datgan yn wag a threfnir isetholiad gan y Pwyllgor ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol nesaf, os na dderbynnir unrhyw enwebiadau ar gyfer y safle erbyn amser cau’r cyfnod estynedig.
3.02 YMGYRCHU

(1) Bydd yna gyfnod o ymgyrchu cyn y dyddiad pleidleisio, a fydd yn parhau am o leiaf (10) diwrnod.
(2) Bydd yr holl ddeunydd ymgyrchu yn ddwyieithog.
(3) Bydd yr holl ddeunydd ymgyrchu angen ei gymeradwyo gan y Pwyllgor.
(4) Ni fydd aelodau na’u cefnogwyr yn symud, gwaredu na dinistrio deunydd ymgyrchu ymgeiswyr eraill nac yn ymyrryd mewn unrhyw ffordd â’r gweithgareddau ymgyrchu.
3.03 Y BLEIDLAIS

(1) Gellir cynnal y bleidlais ar unrhyw ddiwrnod gwaith yn ystod adeg tymor.
(2) Mae gan bob Aelod Cyffredin yr hawl i un bleidlais ym mhob etholiad o gyflwyno tystiolaeth o’i statws fel Aelod Cyffredin.

(3) Gweithredir y bleidlais yn unol ag Erthygl II, Adran 2.03.

(4) Caiff y cyfrif ei gadarnhau a’i gofnodi yng nghofnodion y cyfarfod gan ysgrifennydd y pwyllgor neu’r ysgrifennydd gweithredol.
3.04 ISETHOLIADAU

(1) Cânt eu cynnal pan fydd unrhyw leoliad gwag yn codi, fel y diffinnir yn Rheoliad III, Adran 3.01.
(2) Caiff isetholiadau eu cynnal yn y Cyfarfod Cyffredinol nesaf neu o ganlyniad i alwad am Gyfarfod Cyffredinol Arbennig.

Site footer